![Image Unavailable](http://www.silwli.cymru/cdn/shop/products/getimg_609aab70-5ace-492d-a565-94678ab2d2e3_{width}x.jpg?v=1646770037)
Pwy yw Melangell, a beth sydd mor arbennig amdani? Pam deithiodd y dywysoges ifanc hon yr holl ffordd dros y môr o Iwerddon i dreulio bywyd syml a thlawd mewn cwm unig yng Nghymru? Sut oedd hi'n gallu amddiffyn creaduriaid rhag gelynion cas heb ddefnyddio trais? Pwy'n well i adrodd ei hanes na'r sgwarnog a achubwyd gan Melangell rhag i'r Tywysog Brochfael Ysgithrog ei lladd.