Ar gael fel bwndel gyda Loli - Bwndel Deian a Loli
Croeso i aelodau mwyaf newydd o deulu teganau cerddorol Si-lwli Cymru! Ond mae'r teganau yma bach yn wahanol i'r arfer - gan y maent yn canu ac yn siarad yn y Gymraeg - y gyntaf o'r fath! Syniad a ddoth o'r cyfnod clo nol yn 2020. 3 mlynedd galed o waith datblygu, a dyma nhw yn barod am y byd!! RIBIDIREW!! AC I FFWRDD A NI!!!
Mae Deian ( o Deian a Loli) wastad yn barod am antur! Yr anrheg berffaith i blantos Cymru. Mae Deian llawn talent, ac yn canu alaw Deian a Loli pan yr ydych yn gwasgu'r botwm sain ar ei law, ond hefyd mae o'n siarad 21 o frawddegau gwahanol pan yr ydych yn gwasgu'r botwm ar ei fol:-
1. A dyna pryd welodd ni o; 2. Esgusodwch ni; 3. Deian a Loli dani; 4. Dim ffiars; 5. Diolch yn fawr; 6. Doedd na ddim amser i golli; 7. Dwi isho mynd adra; 8. Dwi ofn; 9. Dy fai di ydy o; 10. Efo'n gilydd; 11. Oh cau dy hen geg y mochyn barus; 12. Fedrwch chi'm gwneud hyna; 13. Gwna dy hun yn fach; 14. Hwn oedd y diwrnod gorau erioed; 15. Hwreee!; 16. Oh na; 17. Ond cyn i ni wybod be' oedd yn digwydd; 18. Ribidirew; 19. Roedd yn bryd dysgu gwers i hon; 20. Tyrd Loli; 21. Wwwwaaaawwww!!!
Dim gwahaniaeth os ma'ch plentyn yn dilyn Deian a Loli ar y teledu neu beidio - does ddim tegan tebyg i hwn ar y farchnad, ac maent siŵr o fynd a Deian a Loli hefo nhw ar bob antur o hyn allan!!
Gwych ar gyfer ddatblygu:-
- Llythrynnedd;
- Cyfathrebu;
- Helpu hefo ynganu'n gywir;
- Dysgu Cymraeg trwy chwarae;
- Normaleiddio'r iaith yn y cartref;
- Creadigrwydd;
- Sgiliau echddygol manwl;
- Sgiligau Cymdeithasol;
- Datblygu annibyniaeth;
- Empathi
- 12cm x 30cm x 10cm
- Addas o 3+
- UKCA
- Yn cymryd 3 x batri AAA